logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Felly carodd Duw wrthrychau

Felly carodd Duw wrthrychau
anhawddgara’ erioed a fu,
felly carodd, fel y rhoddodd
annwyl Fab ei fynwes gu;
nid arbedodd, ond traddododd
ef dros ein pechodau i gyd:
taro’r cyfaill, arbed gelyn,
“Felly carodd Duw y byd.”

Felly carodd, ond ni ddichon
holl angylion nef y nef
draethu, i oesoedd tragwyddoldeb,
led a hyd ei gariad ef;
dyfnach yw na dyfnder daear,
uwch na’r nefoedd fawr i gyd;
rhaid yw tewi gyda dwedyd,
“Felly carodd Duw y byd.”

Felly carodd: hyfryd newydd
aed ar adain awel gref
nes i’w atsain gyrraedd clustiau
pob pechadur dan y nef;
felly carodd, felly carodd
seinied pob creadur byw,
fel bo i’r dylanwad nerthol
danio’r byd â chariad Duw.

GWILYM HIRAETHOG, 1802-83

(Caneuon Ffydd 204)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 12, 2015