logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Fel yr hydd a fref am ddyfroedd

Fel yr hydd a fref am ddyfroedd,
felly mae fy enaid i
yn dyheu am fod yn agos
er mwyn profi o’th gwmni di.

Ti dy hun yw fy nerth a’m tŵr,
a chyda thi, ‘rwyf finnau’n siwr
mai tydi yw serch fy nghalon,
ac O Dduw, addolaf di.

Gwell wyt ti nag aur ac arian,
dim ond ti all lenwi ‘mryd:
ti dy hun rydd im wir lawenydd,
‘rwyt ti’n werth y byd i gyd.

Ti yw ‘Mrawd a thi yw ‘Nghyfaill,
er mai’r Brenin ydwyt ti:
caraf di ganmil gwell na’r cwbl,
mwy na phawb a phopeth sy.

MARTIN NYSTROM (As the deer pants for the water) cyf. PETER M. THOMAS a CASI JONES
Hawlfraint © 1983 Restoration Music Ltd Gweinyddir gan Sovereign Music UK, P.O. Box 356, Leighton Buzzard LU7 8WP

(Caneuon Ffydd 224; Grym Mawl 1: 13)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 12, 2015