logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Fe rof i chwi

Fe rof i chwi bopeth sydd
Ei angen nawr i fynd ymlaen.
Yr Ysbryd Glân o’ch mewn a fydd,
A’m geiriau i, i orchfygu’r gelyn.

Ewch, ewch drwy’r byd i gyd,
D’wedwch mod i’n fyw,
Ewch i bob un stryd,
D’wedwch mod i’n byw,
O, ynoch rwyf yn byw –
Ewch, ewch drwy’r byd i gyd,
Gwnewch ddisgyblion gwir,
Ewch i bob un stryd,
Gan gyhoeddi’n glir,
O, ynoch rwyf yn byw

Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones; I give you now, Amy Rose
© 1988 Coronation Music Publishing/ Gwein. gan Kingsway Music tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd

(Grym Mawl 1: 64)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • May 19, 2015