logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Fe roed imi ddymuniadau

Fe roed imi ddymuniadau
nad oes dim o fewn y byd,
yn y dwyrain na’r gorllewin
a all hanner llanw ‘mryd:
tragwyddoldeb,
yno llenwir fi yn llawn.

Mi gaf yno garu a fynnwyf,
cariad perffaith, pur, di-drai;
cariad drwy ryw oesoedd mawrion
nad â fymryn bach yn llai:
môr diderfyn
byth yn berffaith, byth yn llawn.

Mi gaf yno weld a garwyf,
gweld fy Iesu, gweld fy Nuw,
gynt fu farw ar y croesbren,
heddiw’n ddisglair heddiw’n fyw:
nef y nefoedd
sydd yn suddo yn ei hedd.

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

(Caneuon Ffydd 695)

PowerPoint