logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Fe gyfaddefwn Iôr

Fe gyfaddefwn Iôr ein bod ni yn wan,
O! mor wan, ond rwyt ti’n gryf;
Ac er na feddwn ddim
i roi wrth dy draed,
Fe ddown atat ti, gan ddweud:
‘Helpa di ni.’
Fe gyfaddefwn…

Calon doredig gydag ysbryd gwylaidd,
Ni wrthodaist erioed;
Fe gur dy galon gyda cherrynt cariad,
Llifa’n afon fawr, drwy dy Ysbryd nawr,
Iôr, clyw’n cri.

Dyro ras yn law o’r nefoedd,
Grasusau’n law o’r nefoedd,
Grasusau’n law bob dydd,
O! rho gawod fawr, Iôr, a chlyw’n cri.

It’s our confession, Lord, David Ruis. Cyfieithiad awdurdodedig: Tudur Hallam
© 1995 Mercy/Vineyard Publishing. Gweinyddir gan CopyCare

(Grym Mawl 2: 69)

PowerPoint
  • MLC_Admin,
  • January 1, 1970