logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Fe garodd Iesu’r eiddo

Fe garodd Iesu’r eiddo
hyd eitha’r olaf awr,
rhoes fara’i fywyd erddo
a gwin ei galon fawr;
a minnau gofiaf heddiw
yr ing a’r chwysu drud
a’r cariad nad yw’n edliw
ei fai i euog fyd.

Fe welir dwyfol drallod
uwch byd a’i gamwedd trist,
a’r gras sy’n drech na phechod
yn angau Iesu Grist;
wrth gofio’r loes a’r marw
na’m caffer i’n ddi-glwy’:
boed pwysau’r croesbren garw
ar f’ysgwydd innau mwy.

R. S. ROGERS, 1882-1950

(Caneuon Ffydd 651)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • April 27, 2015