logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Fe ddaeth ddoe â’i siâr o ofid

Cerddwn Ymlaen

Fe ddaeth ddoe â’i siâr o ofid
a daeth pryder yn ei dro,
gwelwyd hefyd haul yn gwenu
a llawenydd yn ein bro:
ond drwy’r lleddf a’r llon fe welwyd
llaw yr Iôr yn llywio’n bywyd
i’r yfory sy’n obaith gwiw.

Mae’r yfory heb ei brofi,
mae ei stôr o hyd dan sêl;
mae pob dyfais mae am gynnig
a phob profiad o dan gêl:
ond wrth fentro ‘mlaen cei flasu
gwir anturiaeth, ac fe weli
fod yfory yn obaith gwiw.

Cyt:

Cerddwn ymlaen i’r yfory,
      chwifiwn faner yn y gwynt,
seiniwn glod am a gafwyd,
      am fendithion dyddiau gynt;
am y rhai fu yma’n sefyll
      ac yn brwydro dros y gwir
seiniwn glod a cherddwn ymlaen.

PETER M. THOMAS  Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 154)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • January 28, 2016