logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Er yr holl ofid sy’n llethu fy myd

Er yr holl ofid sy’n llethu fy myd
Mae Enw Iesu’n fwy nerthol;
Er yr holl ofn a’r amheuon i gyd,
Mae Enw Iesu’n fwy nerthol;
Grymoedd sy’n bygwth dinistrio ein ffydd,
Wrth enw Iesu, sy’n colli’r dydd;
Gwag grefyddoldeb yn fethiant a fydd,
Mae enw yr Iesu’n fwy nerthol.

Iesu, dy enw sy’n gryf i’n hiacháu,
Ynddo mae nerth i’n cadarnhau;
Jehofa Shalom, Ti yw Awdur ein hedd,
A molwn dy enw’n ddiddiwedd.

Er yr holl bechod fu’n fwrn lawer gwaith
Mae enw Iesu’n fwy nerthol;
Er yr holl ddioddef dywyllodd y daith
Mae enw Iesu’n fwy nerthol.
Pob rhyw uchelgais – fe’i rhoddaf i Ti,
O Rymus Goncwerwr ar Galfari;
Chwerwedd, cenfigen – clywch hyn gennyf fi:
“Mae enw yr Iesu’n fwy nerthol!”

(Grym Mawl 2: 28)

Rachel Lynes: The name that is higher, Cyfieithiad Awdurdodedig: Casi Jones
© 1997 Sovereign Lifestyle Music

PowerPoint