logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Er dy fod yn uchder nefoedd

Er dy fod yn uchder nefoedd,
Uwch cyrhaeddiad meddwl dyn,
Eto dy greaduriaid lleiaf
Yn dy olwg bob yr un;
Nid oes meddwl
Ond sy’n olau oll o’th flaen.

Ti yw ‘Nhad, a thi yw ‘Mhriod,
Ti yw f’Arglwydd, Ti yw ’Nuw,
F’unig Dŵr, a’m hunig Noddfa,
Wyt i farw neu i fyw:
Cymmer f’enaid,
Dan dy adain tua’r nef.

Tro ‘ngelynion yn eu gwrthol,
A phalmanta’r ffordd i’r wlad,
Tra fwy’n yfed addewidion
Pur yr iechydwriaeth rad;
Fel y gallwyf
O’m holl gystudd ymgryfhau.

Minnau ymddigrifaf ynot,
A chanmolaf fyth dy ras,
Tra fo’r anadl bur yn para,
Yntau wedi’r êl i maes:
Tragwyddoldeb
Ni chaiff ddiwedd ar fy nghân.

William Williams, Pantycelyn

PowerPoint