logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Enynnaist ynof dân

Enynnaist ynof dân,
perffeithiaf dân y nef,
ni all y moroedd mawr
ddiffoddi mono ef;
dy lais, dy wedd, a gweld dy waed,
sy’n troi ‘ngelynion dan fy nhraed.

Mae caru ‘Mhrynwr mawr,
mae edrych ar ei wedd
y pleser mwya’ nawr
sy i’w gael tu yma i’r bedd:
O gariad rhad, O gariad drud,
sydd fil o weithiau’n fwy na’r byd.

Wel dyma’r gwrthrych cun,
a dyma’r awr a’r lle
cysegraf fi fy hun
yn gyfan iddo fe;
ffarwél, ffarwél bob eilun mwy,
mae cariad Iesu’n drech na hwy.

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

(Caneuon Ffydd 314; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 268)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 4, 2015