logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Engyl glân o fro’r gogoniant

Engyl glân o fro’r gogoniant
hedant, canant yn gytûn;
clywch eu llawen gân uwch Bethlem,
“Heddiw ganwyd Ceidwad dyn”:
dewch, addolwn, cydaddolwn
faban Mair sy’n wir Fab Duw,
dewch, addolwn, cydaddolwn
Iesu, Ceidwad dynol-ryw.

Mwyn fugeiliaid glywsant ganu
a hwy’n gwylio’u praidd liw nos;
gwelent Dduw ar ddyn yn gwenu
yng ngoleuni’r seren dlos:
dewch, addolwn, cydaddolwn
faban Mair sy’n wir Fab Duw,
dewch, addolwn, cydaddolwn
Iesu, Ceidwad dynol-ryw.

Saint fu’n hir yn ofnus ddisgwyl
am ddiddanwch Israel drist,
clywch, mae Ceidwad wedi’i eni,
arnom gwena Duw yng Nghrist:
dewch, addolwn, a moliannwn
faban Mair sy’n wir Fab Duw,
dewch, addolwn, a moliannwn
Iesu, Ceidwad dynol-ryw.

HAWEN, 1845-1923

(Caneuon Ffydd 447)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 19, 2015