logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ein Hunig Obaith

Y mae Cymru wedi troi ei chefn,
wedi teithio’n bell oddi wrthyt Ti,
a dirmygu dy holl roddion grasol;
O ein Tad trugarog clyw ein cri:

Cymer Dy le ac anfon Dy lân Ysbryd
i’r enaid sych sy’n barod am Dy dân.
Ein hunig obaith tyrd i’n llenwi eto.
Adfywia ni yn nerth Dy Ysbryd Glân.

Ffyddlon Dduw, dy gariad sy’n dragwyddol
felly dwedwn, “Maddau Iôr i ni.”
Mae ‘na hiraeth am dy bresenoldeb;
fe ddown ni, Dduw Dad, ‘n ôl atat Ti.

Pan ddown ni yn ôl, Dad, i dy gwmni,
Cawn Dy groeso – golchi’n beiau’i gyd
a bydd Cymry’n clywed unwaith eto
D’alwad clir i wledydd yr holl fyd.

Cymer Dy le ac anfon Dy lân Ysbryd
i’r enaid sych sy’n barod am Dy dân.
Ein hunig obaith tyrd i’n llenwi eto.
Adfywia ni yn nerth Dy Ysbryd Glân.
Anfona ni yn nerth Dy Ysbryd Glân.

Hawlfraint ©2010 Andy Hughes

PowerPoint PowerPoint lliw PDF MP3
  • MLC_Admin,
  • January 1, 1970