logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Efengyl tangnefedd, O rhed dros y byd

Efengyl tangnefedd, O rhed dros y byd,
a deled y bobloedd i’th lewyrch i gyd;
na foed neb heb wybod am gariad y groes,
a brodyr i’w gilydd fo dynion pob oes.

Sancteiddier y ddaear gan Ysbryd y ne’;
boed Iesu yn Frenin, a neb ond efe:
y tywysogaethau mewn hedd wrth ei draed
a phawb yn ddiogel dan arwydd ei waed.

Efengyl tangnefedd, dos rhagot yn awr,
a doed dy gyfiawnder o’r nefoedd i lawr,
fel na byddo mwyach na dial na phoen
na chariad at ryfel, ond rhyfel yr Oen.

EIFION WYN, 1867-1926

(Caneuon Ffydd 844)

PowerPoint