logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Efe yw’r perffaith Iawn

Efe yw’r perffaith Iawn.
Mae Teyrnas Gras yn llawn
O bechaduriaid mawr
A gafodd yma i  lawr
O’u crwydro ffôl – faddeuant llwyr
Gan Iesu Grist, cyn mynd rhy hwyr.

Fy iachawdwriaeth i
Sydd wastad ynot Ti,
Mae grym y Groes a’r gwaed
A’r llawnder im a gaed,
O’th ryfedd ras – yn cyfiawnhau.
A gallu Duw yn llwyr lanhau.

Fe wawriodd hyfryd ddydd
Fy nghyfiawnhau drwy ffydd,
Nid yw fy mhechod mwy
Ond rhan o’r Groes a’i glwy’,
Efengyl gras – o’r ffasiwn hedd.
Mae’r Iesu wedi trechu’r bedd.

Geiriau- Alwyn Pritchard, Awst 2011

PowerPoint

Tôn – Awgrymir: Darwall’s 148th (Caneuon Ffydd 66) neu Rehoboth (Caneuon Ffydd 149)

Rehoboth

Darwall
 

  • Gwenda Jenkins,
  • November 6, 2018