Mae’r gwynt yn awr yn rhuo
Ond ni chaf fy siglo,
Fe wn i, mae E wrth y llyw.
Mae’r Un sy’n fwy o’m mewn i
Yn fwy na beth sy’n f’erbyn,
Fe wn i, mae E wrth y llyw
Fe’m cynnal i fel o’r blaen,
Ef yw’r Iôr, Ef yw’r Iôr;
Nid ofnaf mwy, fe wn i,
Ef yw’r Iôr, Ef yw’r Iôr.
Mae’r Un sy’n dal yfory
Yn galw fi i’w ddilyn.
Â’m cyfan oll, fe af i.
Mae’r Un wnaeth yr addewid
Yn gorffen beth gychwynnodd.
Â’m cyfan oll, fe af i.
Fe’m cynnal i fel o’r blaen,
Ef yw’r Iôr, Ef yw’r Iôr;
Nid ofnaf mwy, fe wn i,
Ef yw’r Iôr, Ef yw’r Iôr.
Plyga’r mynyddoedd nawr o’i flaen,
Boed i bawb gyhoeddi nawr.
He is Lord, Steven Furtick, Chris Brown, Mack Brock, Wade Joye
Cyfieithiad awdurdodedig gan Arwel E. Jones.
Hawlfraint 2017 a’r cyfieithiad hwn © 2018 Music by Elevation Worship Publishing (BMI). Cedwir pob hawl. Defnyddiwyd trwy ganiatâd.
CCLI # 7125202
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint