logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ef a’m deil yn dynn

Pennill 1
Pan fwy’n ofni colli ffydd,
Crist – fe’m deil yn dynn;
Pan ddaw’r temtiwr trech liw dydd,
Ef a’m deil yn dynn.
Dal fy ngafael – fedra’i fyth
Ar fy nyrys daith,
Am mai oer yw ’nghariad i,
Rhaid Iddo ’nal yn dynn.

Cytgan
Ef a’m deil yn dynn,
Ef a’m deil yn dynn;
Fy Ngwaredwr, Ef a’m câr,
Ef a’m deil yn dynn.

Pennill 2
Ei hyfrydwch yw Ei braidd,
Crist – fe’m deil yn dynn,
Gwerthfawr yn Ei olwg glân,
Ef a’m deil yn dynn.
Ni âd f’enaid golli’r dydd –
Bythol yw Ei Air;
Prynwyd ganddo – o’r fath bris!
Ef a’m deil yn dynn.

Pennill 3
Drosof fi bu farw’r Oen,
Crist – fe’m deil yn dynn;
Grym y ddeddf, bodlonwyd hwn,
Ef a’m deil yn dynn.
Codir fi i fythol fod,
Ef a’m deil yn dynn,
Nes troir ffydd yn olwg clir
Pan ddaw Ef drachefn!

Ef a’m deil yn dynn
HE WILL HOLD ME FAST MERKER (AR)/PD HABERSHON
© 2013 Getty Music Publishing (Gwein. gan Music Services, Inc.) / Matthew Merker Music (Gwein. gan Song Solutions www.songsolutions.org)
cyf. Linda Lockley

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • March 24, 2021