logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Edrycha’r glas ‘na yn yr awyr

Edrycha’r glas ‘na yn yr awyr
siapiau hardd cymylau gwyn,
Y gwynt yn chwythu ar fy ngwyneb
a’i sŵn yn rhuthro ble y mynn.
Sut faswn i petawn i yno
y dydd croeshoeliwyd Iesu cu,
Pan rwygwyd llen y deml’n hanner
a threchwyd grym marwolaeth du?
Mae’r greadigaeth yn disgwyl,  mae’r greadigaeth yn disgwyl,
Mae’r greadigaeth yn disgwyl dyfodiad y Mab;
Mae’r greadigaeth yn datgan, mae’r greadigaeth yn datgan,
Mae’r greadigaeth yn datgan gogoniant y Tad.

O –   o  –   o –   o –   o –   o –   o

Iesu, Ti yw fy Nuw, Ti yw fy mrawd, Ti yw yr Archoffeiriad Mawr
F’aberth wyt Ti, f’anrheg wyt Ti, Ti yw yr Oen a gadd ei ladd
A ‘sdim byd i’w ddeud a ‘sdim byd i’w wneud,
Dim ond i roi fy hun i Ti, ‘mhriod wyt Ti, Achubwr wyt Ti,
Deled dy deyrnas ynom ni.

Dwi’n teimlo’n fach yn y bydysawd,
Mor fach â’r morgrug yn yr ardd;
Ac eto Ti’n fy ngwneud i’n blentyn
Yn chwaer neu’n frawd i Iesu hardd.
Pan fydd ‘mhechod i yn pwyso
Dy gariad Di sydd lawer mwy,
Pan ddoi Di nôl fe godaf finnau
Gyda’r saint, a heb ‘run clwy’.

Mae’r greadigaeth ayb.

O-o-o-o-o-o-o

Iesu, Ti yw fy Nuw, Ti yw fy mrawd,
Ti yw yr Archoffeiriad Mawr.
F’aberth wyt Ti, F’anrheg wyt Ti,
Ti yw yr Oen a gadd ei ladd.
A ‘sdim byd i’w ddweud a ‘sdim byd i’w wneud
Dim ond i roi fy hun i Ti;
‘Mhriod wyt Ti, Achubwr wyt Ti,
Deled dy deyrnas ynom ni.

@Elise Gwilym 2018

MP3 PowerPoint Cordiau
  • Gwenda Jenkins,
  • May 14, 2019