logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dywed air ac fe’n hiacheir

Dywed air ac fe’n hiacheir,
Ti yw’r Ffisigwr dwyfol
Liniara bob poen.
Dywed air ac fe’n rhyddheir,
Fe ddryllir y cadwyni
Sy’n ein dal ni mor gaeth,
Dywed air.

Dywed air, llonydda fi;
Dywysog ein tangnefedd,
Tawela bob storm.
Dywed air, diwalla fi,
Rho imi’r dyfroedd bywiol
Dry’n ffynnon lân o’m mewn.
Dywed air.

Syrthiodd ei ddagrau fel glaw arnaf fi,
Pob dafn sydd yn fy adfywio.
Dychwelyd wnaf nawr at groes Calfari
Lle llifodd gras a chariad calon Duw.

Dywed air, a byddaf dlawd,
Er mwyn i’m weld y cyfoeth
A ddaeth ynot ti.
Dywed air, a byddaf wan,
Dy ras sydd ddigon imi,
Mewn gwendid y mae nerth.
Dywed air.

Holl lafur cariad ei enaid a wêl,
A’m Harglwydd gaiff ei fodloni.
Fy unig obaith yw croes Calfari
O Arglwydd Iesu, rhof fy hun i ti.

Cyfieithiad Awdurdodedig: Alun Tudur, Say the word: Stuart Townend
© 1994 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/
Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music
tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd

(Grym Mawl 2: 118)

PowerPoint