logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dysg imi garu Cymru

Dysg imi garu Cymru,
ei thir a’i broydd mwyn,
rho help im fod yn ffyddlon
bob amser er ei mwyn;
O dysg i mi drysori
ei hiaith a’i llên a’i chân
fel na bo dim yn llygru
yr etifeddiaeth lân.

Dysg imi garu cyd-ddyn
heb gadw dim yn ôl,
heb ildio i amheuon
nac unrhyw ysbryd ffôl;
wrth imi gofio eraill
rho im ewyllys dda
a chalon fydd yn eirias
dros bopeth a’u llesâ.

Dysg imi garu’r Iesu
a’i ddilyn ef o hyd
gan roi fy mywyd iddo,
Gwaredwr mawr y byd;
goleued ei wirionedd
fy meddwl i a’m dawn,
doed ysbryd ei anturiaeth
i’m bywyd i yn llawn.

W. RHYS NICHOLAS, 1914-96 © Richard E. Huws

(Caneuon Ffydd: 832)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • January 18, 2016