logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dyro inni dy arweiniad

Dyro inni dy arweiniad,
Arglwydd, drwy yr oedfa hon;
rho dy Ysbryd a’i ddylanwad
i’n sancteiddio ger dy fron:
nefoedd yw dedwydd fyw
dan dy wenau di, O Dduw.

Byw yng ngwên dy siriol ŵyneb
ewyllysiwn yn y byd,
a chael oesoedd tragwyddoldeb
i fawrhau dy gariad drud;
dyro i lawr, yma nawr,
ernes o’r gyfeillach fawr.

MEIGANT (R. M. Jones), 1851-99

(Caneuon Ffydd 17)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan
  • Gwenda Jenkins,
  • March 10, 2015