logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dyrchafwn ganiad newydd

Dyrchafwn ganiad newydd,
O Arglwydd, ger dy fron
am dy amddiffyn grasol
i’r demel annwyl hon:
deisyfwn unwaith eto
am olwg ar dy wedd
lle buost drwy’r blynyddoedd
yn rhoi o rin dy hedd.

Bu’n tadau gynt yn dyfod
o bellter bro a bryn
i blygu mewn addoliad
o fewn i’r muriau hyn:
datguddiaist iddynt drysor
dy gariad ar eu taith,
dod inni ffydd i’w canlyn
heb wyrni yn dy waith.

Teyrnased dy dangnefedd
yn amlwg yma mwy,
a rhwyma ein gobeithion
am Grist a’i groes a’i glwy’:
dan wenau heulwen hawddfyd
a gwg y chwerwaf chwyth
boed y golomen nefol
yn aros yma byth.

AMANWY (David Rees Griffiths), 1882-1953 © Rhys a Rhodri Davies. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 26)

PowerPoint
PPt Sgrîn lydan

  • Gwenda Jenkins,
  • February 18, 2016