logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dyrchafodd Crist o waelod bedd

Dyrchafodd Crist o waelod bedd
goruwch y nefoedd wen,
lle’r eistedd ar orseddfainc hedd,
a’i goron ar ei ben.

“Yr Oen a laddwyd, teilwng yw!”
medd holl dafodau’r nef;
ac uned pob creadur byw
i’w foli ag uchel lef.

Am iddo oddef marwol glwy’
a’n prynu drwy ei waed,
caiff holl goronau’r nefoedd mwy
eu bwrw wrth ei draed.

Boed peraroglau’i enw drud
yn llenwi daear lawr,
a chladder enwau’r byd i gyd
yn enw Iesu mawr.

GWILYM HIRAETHOG, 1802-83

(Caneuon Ffydd 545)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015