logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dyrchafer enw Iesu cu

Dyrchafer enw Iesu cu
gan seintiau is y nen,
a holl aneirif luoedd nef,
coronwch ef yn ben.

Angylion glân, sy’n gwylio’n gylch
oddeutu’i orsedd wen,
gosgorddion ei lywodraeth gref,
coronwch ef yn ben.

Hardd lu’r merthyri, sydd uwchlaw
erlyniaeth, braw a sen,
â llafar glod ac uchel lef
coronwch ef yn ben.

Yr holl broffwydi nawr sy’n gweld
y Meichiau mawr heb len,
a’i apostolion yn gyd-lef,
coronwch ef yn ben.

Pob perchen anadl ymhob man
dan gwmpas haul y nen,
ar fôr a thir, mewn gwlad a thref,
coronwch ef yn ben.

Yn uchaf oll bo enw’r hwn
fu farw ar y pren;
trwy’r ddaear faith ac yn y nef,
coronwch ef yn ben.

EDWARD PERRONET, 1726?-92 (All hail the power of Jesus’ name), efel. IEUAN GLAN GEIRIONYDD, 1795-1855

(Caneuon Ffydd 235, Grym Mawl 1: 5)

PowerPoint youtube