logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dyn dïeithir ydwyf yma

Dyn dïeithir ydwyf yma,
Draw mae ‘ngenedigol wlad;
Draw dros foroedd mawr tymhestlog,
Ac o fewn i’r Ganaan rad:
Stormydd hir o demtasiynau
A’m curodd i fel hyn mor bell;
Tyred, ddeau wynt pereiddiaf,
Chwyth fi i’r Baradwys well.

Ac er gwaethaf grym y tonnau
Sydd yn curo o bob tu,
Dof trwy’r stormydd, dof trwy’r gwyntoedd
Rywbryd i’r Baradwys fry:
Gair fy Nuw sy’n drech na’r moroedd,
Gair fy Nuw sy’n drech na’r don;
Ac mi anturiaf oll a feddwyf
Fythol i’r addewid hon.

‘R wyf yn dechrau teimlo eisoes
Beraroglau’r gwledydd draw,
Gyda’r awel bur yn hedeg;
Diau fod y wlad gerllaw:
Tyrd, y tir dymunol hyfryd,
Tyrd, yr ardal sydd heb drai;
Dy bleserau o bob rhywiau,
Gad im bellach eu mwynhau.

William Williams (1717-1791)
(Llawlyfr Moliant Newydd: 618)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • September 10, 2015