logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dyma’r dydd i gyd-foliannu

Dyma’r dydd i gyd-foliannu
Iesu, Prynwr mawr y byd,
dyma’r dydd i gyd-ddynesu
mewn rhyfeddod at ei grud;
wele’r Ceidwad
yma heddiw’n faban bach.

Daeth angylion gynt i Fethlem
i groesawu Brenin nef,
daeth y doethion a’r bugeiliaid
yno at ei breseb ef;
deuwn ninnau
heddiw’n wylaidd at ei grud.

Deued dwyrain a gorllewin
i glodfori’r Mab a gaed,
dyged gogledd a deheudir
eu trysorau at ei draed;
mawl i’r Iesu
fo’n atseinio drwy’r holl fyd.

GWILYM R. TILSLEY, 1911-97  © Gareth M. Tilsley

(Caneuon Ffydd: 440)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • January 18, 2016