logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dyma pam datguddiwyd y Crist

Dyma pam datguddiwyd y Crist,
I ddifetha yn llwyr ymdrech yr Un Drwg.
Crist o’n mewn ennillodd y dydd,
Felly llawen yw’n cân o groeso
i’w Deyrnas Ef.

Mae’n goncwerwr dros bechod,    (Dynion)
Haleliwia, mae’n goncwerwr.        (Merched)
Dros farwolaeth, buddugol,           (Dynion)
Haleliwia, buddugol                        (Merched)
Dros afiechyd, fe ennillodd,          (Dynion)
Haleliwia, fe ennillodd.                  (Merched)
Crist deyrnasa drwy’r byd!            (Pawb)

Safwn yma yn enw Crist,
A thrwy rinwedd ei waed
Hawliwn yma’r tir.
Satan sydd heb awdurdod mwy;
Gallu’r t’wyllwch a ffy
Cans Crist yw’r buddugwr cry.

Cyfieithiad Cymraeg Awdurdodedig: Catrin Alun (For this purpose, Graham Kendrick)
Hawlfraint © 1985 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music (tym@kingsway.co.uk). Defnyddir trwy ganiatâd

(Grym Mawl 1: 35)

PowerPoint