logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dyma ni yn barod

Dyma ni yn barod
Gerbron ein Brenin mawr,
Mae’n dangos i’n y frwydr sydd o’n blaen.
Fe goncrodd ef y gelyn –
Bu farw yn ein lle;
Fe’n geilw ninnau ‘nawr i’w ddilyn ef.

A byw yn ffordd y nef, ffordd y nef,
Awn yn llawen, a’i ddilyn ef;
Ffordd y nef, ffordd y nef,
‘Iesu’n Frenin!’ yw ein llef.

Wedi ein harfogi,
Ry’m barod nawr i’r gâd,
I rannu yn ei fuddugoliaeth ef.
Ymarfer trin ein harfau
Ddarparwyd gan ein Duw,
Trwy ddilyn ei orchmynion tra fo’m byw.

Daw, fe ddaw yn fuan,
Ef ydyw T’wysog Hedd;
Gwêl pob llygad ei ogoniant Ef.
Banllefau buddugoliaeth
A glywir ym mhob man;
Llawenydd a gorfoledd yn ein cân.

Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, We are all assembled: Mick Gisbey
Hawlfraint © 1988 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. Gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music (tym@kingsway.co.uk)
Defnyddir trwy ganiatâd

(Grym Mawl 1: 165)

PowerPoint