logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dyma iachawdwriaeth hyfryd

Dyma iachawdwriaeth hyfryd
wedi ei threfnu gan fy Nuw,
ffordd i gadw dyn colledig,
balm i wella dynol-ryw:
dyma ddigon
i un euog fel myfi.

Wele foroedd o fendithion,
O am brofi eu nefol flas:
ni bydd diwedd byth ar lawnder
iachawdwriaeth dwyfol ras;
dyma ddigon,
gorfoledda f’enaid mwy.

WILLIAM JONES, 1784-1847

(Caneuon Ffydd 182)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 11, 2015