logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dy gofio Di

Pennill 1:
Bara dy fywyd Di
A dorrwyd er fy mwyn
Dy gorff a roed ar groes
I’m gwneud yn gyflawn

Pennill 2:
Cofiaf y cwpan llawn
Dywalltwyd er fy mwyn
Yn rhoi’th gyfamod Di
Yn lle fy mhechod i

Cytgan:
Haleliwia
Rwy’n byw fy mywyd i’th gofio
Haleliwia
Fe gofiaf d’addewid Di

Pennill 3:
Wrth gerdded ffordd y groes
Mewn ofn a dychryn mawr
Cael llunio Crist o’m mewn
Wrth ddilyn ôl ei draed

Cytgan:
Haleliwia
Rwy’n byw fy mywyd i’th gofio
Haleliwia
Fe gofiaf d’addewid Di

Wedi Cytgan 1:
Os byth y collaf i fy ffordd
Os byth y gwadaf i dy ras
Atgoffa fi o’r pris a roest
Haleliwia
Rwy’n byw i’th gofio di

Pont:
Buost mor, mor dda i mi
Buost mor, mor dda i mi
O, lle byddwn i heblaw
Amdanat Ti?
Amdanat Ti
Wedi Cytgan 2:
O’r dyfnder mawr i uchder nef
O’r dwyrain i’r gorllewin pell
Y mae dy ras ’di nghario i

Wedi Cytgan 3:
Nes i mi weld dy wyneb Di
Nes cwblhau fy olaf ras
Atgoffa fi
Dy fod ar waith

TAG:
Haleliwia
Haleliwia
Haleliwia
Rwy’n byw i’th gofio Di

Cerddoriaeth a geiriau: Chris Davenport & Benjamin Hastings
Cyfieithiad Cymraeg: Arwel E. Jones
© 2017 Hillsong Music Publishing
CCLI # 7157412

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint

  • Rhys Llwyd,
  • September 9, 2020