logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dy gariad, mae fel eryr yn hedfan

Dy gariad, mae fel eryr yn hedfan.
Dy gariad, mae fel cawod o law;
Dy gariad sydd yn rhoddi bywyd
I bob peth drwy’r ddaear lawr.
Dy gariad ataf fi
A’m cyffyrddodd mor ddwfn.
Fy Nuw, derbyn fi i’th ddilyn,
Arglwydd, derbyn hwn.

Dy gariad sydd yn drysu’r gelyn.
Dy gariad blyga’r balch i lawr;
Crefu mae ar ei liniau o’th flaen di,
Crefu mae am dy drugaredd ‘nawr.
Dy gariad ddiogelodd fi
Rhag ffolineb fy ffyrdd.
Fy Nuw, derbyn fi i’th foli
Bob awr o’r dydd.

Dy gariad – mor llydan a’r moroedd;
Dy gariad – mor ddwfn yw, fy Nuw.
Dy gariad gofleidia’r cenhedloedd.
Dy gariad a’m gwnaeth i yn fyw.
Dy gariad, rhyfeddol yw!
Mor hardd ac mor gry’!
Fy Nuw, derbyn fi i’th fynwes,
(A) diogel fyddaf fi.

(Grym Mawl 2: 163)

Derek Bond: Your love is like and eagle soaring, Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones
Hawlfraint © 1996 Sovereign Music UK

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 23, 2015