logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dy gariad di

Dy gariad di sy’n estyn hyd y nefoedd;
A’th wir ffyddlondeb sy’n estyn hyd y nen;
Fel cadarn fynydd saif dy hardd gyfiawnder.
Mor werthfawr yw dy gariad drud.
 
Dyrchafaf di, O, fy Iôr,
Dyrchafaf di, O, fy Iôr;
Clod i’th enw glân,
Cân fy nghalon fawl i ti –
Dyrchafaf di, O, fy Iôr.

Dy enw di sy’n gadarn dŵr i mi;
D’ogoniant a welir drwy’r holl fyd.
Yn unig gennyt ti mae nerth a gallu,
Pob moliant fo i’th enw drud.

Peggy Caswell: Your love, O Lord, Cyfieithiad Awdurdodedig: Catrin Roberts
© 1990 Sound Truth Pd/ Kingsway’s Thankyou Music

(Grym Mawl 2: 162)

PowerPoint