logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dy deyrnas doed, O! Dduw

Dy deyrnas doed, O! Dduw,
Boed Crist yn llyw yn awr;
Â’th wialen haearn tor
Holl ormes uffern fawr.

Ple mae brenhiniaeth hedd,
A’r wledd o gariad byw?
Pryd derfydd dicter du,
Fel fry yng ngwyddfod Duw?

Pryd daw yr hyfryd ddydd
Pan na bydd brwydyr lem,
A thrawster a phob gwanc
Yn dianc rhag dy drem?

Gwatwarant d’enw mawr,
Difrodant ‘n awr dy ŵyn;
Gweithredoedd llawn o warth
Sy’n darth dros gariad mwyn.

Ein gweddi beunydd yw,
Doed Duw yn ei holl rym,
I nerthu’r enaid gwan
O dan ddrycinoedd llym.

Dros diroedd maith di-ffydd
Y caddug sydd o hyd;
Tyrd, seren wen y wawr,
Goleua’r llawr i gyd.

Lewis Henley (1824-1905)
Cyf. D. Lloyd George (1863-1945)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • November 10, 2015