logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dy alwad, Geidwad mwyn

Dy alwad, Geidwad mwyn,
mor daer a thyner yw:
mae ynddi anorchfygol swyn,
fy Mrenin wyt a’m Duw.

Dilynaf, doed a ddêl,
yn ôl dy gamre glân,
a’m bedydd sydd yn gywir sêl
cyfamod diwahân.

Y drymaf groes i mi
fydd mwy yn hawdd i’w dwyn
wrth gofio’r groes i Galfarî
a ddygaist er fy mwyn.

I ti fy hunan rof
drwy broffes lân, ddi-lyth,
a boed ei hystyr yn fy nghof
ac yn fy nghalon byth.

LLIFON, 1857-1922

(Caneuon Ffydd 630; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 13)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 26, 2015