logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

D’wed wrth bawb, cyfododd yr Iesu

D’wed wrth bawb, cyfododd yr Iesu,
Gad i’w fawl gwmpasu’r holl fyd;
Dos a d’wed wrth bobloedd y gwledydd
Fod Iesu Grist yn fyw.
 
Dod i’r preseb, mynd i’r bedd,
Dod i’r stabal, mynd i’r groes.
Fe roes ei fywyd Ef yn aberth drosom oll;
Fe ddaeth o’i orsedd fry i gadw dynion coll,
Daeth i’n cymodi gyda Duw.

Dwed wrth bawb, cyfododd yr Iesu,
Gad i’w fawl gwmpasu’r holl fyd;
Dos a d’wed wrth bobloedd y gwledydd
Fod Iesu Grist yn fyw.

Ni welodd neb, ni chlywodd clust y cwbl rydd;
Yn atgyfodiad Crist mae bywyd gennym ni;
Hon yw y wyrth fwyaf i gyd a wnaeth ein Duw;
Cyfododd Iesu – Mae yn fyw!

Cyfieithiad Awdurdodedig: Tudur Hallam, Tell the world: Dave Bilbrough
© 1997 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/
Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music
tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd

(Grym Mawl 2: 124)

PowerPoint