logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dwed, a flinaist ar y gormes

Dwed, a flinaist ar y gormes,
lladd a thrais sy’n llethu’r byd?
Tyrd yn nes, a chlyw ein neges
am rym mwy na’r rhain i gyd:
cariad ydyw’r grym sydd gennym,
cariad yw ein tarian gref,
grym all gerdded drwy’r holl ddaear,
grym sy’n dwyn awdurdod nef.

Cariad sydd yn hirymaros
a’i gymwynas heb ben draw;
cariad nid yw’n cenfigennu,
nid yw’n ceisio dim i’w law;
nid yw cariad byth yn ildio,
nid yw’n cofio unrhyw fai;
heria’r drwg, ond am wirionedd
mae’i lawenydd yn ddi-drai.

Gwisgwn holl arfogaeth cariad
gyda’n ffydd yn dwyn pob baich,
gyda’n gobaith yn ein Harglwydd,
a’n cadernid yn ei fraich:
pan syrth lluoedd cryfion daear
yn eu gwendid ar y llawr,
cariad saif i orfoleddu
‘muddugoliaeth Iesu mawr.

SIÔN ALED (©Siôn Aled, defnyddiwyd drwy ganiatâd)

(Caneuon Ffydd 837)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 30, 2015