logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Duw wyt i’r Tlawd (Harddwch am Friwiau Lu)

Pennill 1
Harddwch am friwiau lu
Gobaith a fydd,
Iôr, yn ein trallod
Clyw weddi ein dydd –
Bara i’r bychain,
Tegwch, hoen, hedd,
Heulwen hyd fachlud,
Doed Dy deyrnas ’mhob gwedd!

Pennill 2
Lloches i fywyd brau,
Iechyd i’r sâl,
Gwaith i bob crefftwr
A theg fyddo’i dâl,
Tir i’r amddifad rai,
Hawliau i’r gwan,
Hyder i godi llef –
Dyma ein rhan.

Cytgan
Duw wyt i’r tlawd,
Cyfaill i’r gwan,
Rho in dosturi yw’n cri!
C’nesa bob ias,
Uniona bob cam,
Tania ein serch –
Tro’r wreichionen yn fflam!

Pennill 3
Lloches rhag rhyfel cas,
Hafan rhag braw,
Trefi fo’n noddfa,
Rhyddid a ddaw.
Heddwch ar faes y gad,
Pridd llosg dry’n fras,
Crist yn lle chwer’der –
Ei groes am y cas.

Cytgan
Duw wyt i’r tlawd,
Cyfaill i’r gwan,
Rho in dosturi yw’n cri!
C’nesa bob ias,
Uniona bob cam,
Tania ein serch –
Tro’r wreichionen yn fflam!

Pennill 4
Hoe i bob diffaith dir,
Cefnfor a nant
Anrheithiwyd a’u ’sbeilio
Gan ddifrawder dy blant.
Rho ben ar ynfydrwydd,
Ein trachwant di-baid
Gwna ninnau’n fodlon
Ar ’mond beth sydd raid.

Cytgan
Duw wyt i’r tlawd,
Cyfaill i’r gwan,
Rho in dosturi yw’n cri!
C’nesa bob ias,
Uniona bob cam,
Tania ein serch –
Tro’r wreichionen yn fflam!

Pennill 5
Gloywa’n tywyllwch,
Chwyth ar y fflam,
Boed i’th gyfiawnder
Ddisgleirio’n ddi-nam,
Nes daw’r cenhedloedd
I ddeall Dy ffyrdd
Gan geisio’th Achubiaeth
A’th ganmol ’n eu myrdd.

Cytgan
Duw wyt i’r tlawd,
Cyfaill i’r gwan,
Rho in dosturi yw’n cri!
C’nesa bob ias,
Uniona bob cam,
Tania ein serch –
Tro’r wreichionen yn fflam

Duw wyt i’r Tlawd (Harddwch am Friwiau Lu)
God Of The Poor (Beauty for Brokenness) Graham Kendrick
Cyfieithiad awdurdodedig: Linda Lockley
© 1993 Make Way Music (Gwein. gan Make Way Music Limited)

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • September 29, 2021