logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Duw sy’n rhoi harddwch i fynydd a phant

Cwpan Duw (Tôn: Troyte, 394 Caneuon Ffydd)

Duw sy’n rhoi harddwch i fynydd a phant,
Ef sy’n rhoi bwrlwm yn nyfroedd y nant,
Ef sy’n rhoi’r machlud ac Ef sy’n rhoi’r wawr;
am ei holl roddion, rhown ddiolch yn awr.

Duw rydd yr heulwen i’n llonni o’r nen,
‘r ôl i’r cymylau wasgaru uwchben;
Ef ddyry obaith, drwy’r seren fach dlos
pan gwymp pererin i d’wyllwch y ffos.

Duw sy’n rhoi cariad i ymlid pob cas,
trwyddo daw cymod, cyfiawnder a gras;
pan ddaw gofidiau, mae E’n trugarhau;
Ef yw y Cyfaill a ddeil heb bellhau.

Duw roddodd Iesu yn anrheg i’r byd,
dim ond y gorau a rydd Ef o hyd;
dim ond y gorau mae E’n haeddu’i gael
am iddo dywallt o’i gwpan mor hael.

Boed inni ddiolch am gwpan ein Duw,
cwpan bendithion i’n llonni ni yw;
er mae aneirif yw’r rhoddion a gawn
cwpan ein Harglwydd sydd wastad yn llawn.

Alice Evans. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

PowerPoint