logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Duw sy’n codi ei dŷ

Duw sy’n codi ei dŷ,
Duw sy’n codi ei dŷ
Duw sy’n codi ei dŷ ar y graig;
Y mae’n dŷ o feini byw,
Daw o law’r tragwyddol Dduw,
Duw sy’n codi ei dŷ ar y graig.

O! mor gadarn yw’r tŷ,
O! mor gadarn yw’r tŷ,
O! mor gadarn yw’r tŷ ar y graig;
Yno saif mewn gwynt a glaw,
Ac ym mhob rhyw stormydd ddaw,
O! mor gadarn yw’r tŷ ar y graig.

Crist yw sylfaen y tŷ,
Crist yw sylfaen y tŷ,
Crist yw sylfaen y tŷ ar y graig;
Heddiw geilw blant pob gwlad,
“Dewch i mewn i dŷ eich Tad”,
Crist yw sylfaen y tŷ ar y graig.

‘R ŷm ni i gyd yn y tŷ,
‘R ŷm ni i gyd yn y tŷ,
‘R ŷm ni i gyd yn y tŷ ar y graig;
Safwn ni ar sylfaen gref,
Canwn foliant hyd y nef,
‘R ŷm ni i gyd yn y tŷ ar y graig.

1, ANAD; 2,3,4, Hong Sit
cyf. Siôn Aled, Arfon Jones, Tim Webb

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • November 10, 2015