logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Duw sydd gariad, caned daear

Duw sydd gariad, caned daear,
Duw sydd gariad, moled nef,
boed i’r holl greadigaeth eilio
cân o fawl i’w enw ef;
hwn osododd seiliau’r ddaear
ac a daenodd dir a môr,
anadl pob creadur ydyw,
gariad bythol, Duw ein Iôr.

Duw sydd gariad, a chofleidia
wledydd byd yn dirion Dad;
cynnal wna rhwng breichiau diogel
blant pob hil a llwyth a gwlad:
a phan dyr calonnau dynion
o dan feichiau blinder byw
dônt o hyd i’r unfath boenau
yn nyfnderoedd calon Duw.

Duw sydd gariad, er bod dynion
a’u calonnau’n gwbwl ddall;
gwared Duw drwy dragwyddoldeb
blant y ffydd rhag pyrth y fall:
arnom ni chaiff angau’r trechaf
na chrafangau pechod fyth:
cariad ydyw Duw, a’i gariad
fo’n teyrnasu yn ddi-lyth.

TIMOTHY REES, 1874-1939 cyf. HYWEL M. GRIFFITHS © geiriau Cymraeg, Siân Griffiths

(Caneuon Ffydd: 99)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan

  • Gwenda Jenkins,
  • February 16, 2016