Gobaith

Duw fy nerth a’m noddfa lawn

Duw yw fy nerth a’m noddfa lawn;
Mewn cyfyngderau creulon iawn,
Pan alwom arno mae gerllaw;
Ped âi’r mynyddoedd mwya’ i’r môr,
Pe chwalai’r ddaear fawr a’i ‘stôr,
Nid ofnai f’enaid i ddim braw.

A phe dôi’r moroedd dros y byd
Yn genllif garw coch i gyd,
Nes soddi’r bryniau fel o’r blaen;
Mae afon bur i lawenhau
Â’i ffrydiau ddinas Duw’n ddi-drai,
Preswylfa’i saint, a’i babell lân.

A Duw sydd yno yn eu plith,
Ni ’sgogir un ohonynt byth;
Fe’u cymorth hwy yn fore iawn:
Y bore byddo mwy na mwy
O bob gwasgfaeon arnynt hwy,
Ceir gweld addewid Duw yn llawn.

William Williams, Pantycelyn

PowerPoint