logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Duw! er mor eang yw dy waith

Duw! er mor eang yw dy waith,
Yn llanw’r holl greadigaeth faith,
‘D oes dim drwy waith dy ddwylaw oll
At gadw dyn fu gynt ar goll.

Dyma lle mae d’anfeidrol ras
I’r eitha’n cael ei daenu i maes;
A holl lythrennau d’enw a gawn
Yn cael eu dangos yma’n llawn.

Ar Galfari, rhwng daer a nef,
Llewyrchodd ei ogoniant Ef;
Un haul ymguddiodd y prynhawn,
A’r llall a wnaed yn eglur iawn.

Pa ddawn sydd yn y Duwdod mawr
Nad yw’n ysgrifen yma i lawr?
Beth allsai ddangos pwy wyt Ti
Yn well nag angau Calfari?

William Williams, Pantycelyn

(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 146)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 23, 2015