logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Duw anfeidrol yw dy enw

Duw anfeidrol yw dy enw,
Llanw’r nefoedd, llanw’r llawr,
Mae dy lwybrau’n anweledig
Yn nyfnderoedd moroedd mawr:
Dy feddyliau –
Is nag uffern, uwch na’r nef!

Minnau’n ddyfal sy’n ymofyn
Ar yr aswy, ar y dde,
Ceisio canfod dwfwn gyngor,
A dibenion Brenin ne’:
Hyn a ffeindiais –
Mai daioni yw oll i mi.

Da yw’r groes, a da yw gwasgfa,
Da yw profedigaeth llym;
Oll a’m tyn i o’r creadur,
O’m haeddiannau ac o’m grym;
Minnau’r truan,
Ffof dan adain Brenin nef.

William Williams, Pantycelyn

PowerPoint