logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Duw a wnaeth y byd

Duw a wnaeth y byd,
y gwynt a’r storm a’r lli,
ond nid yw e’n rhy fawr
i’n caru ni.

Duw a wnaeth y sêr
sy’n sgleinio acw fry,
ond nid yw e’n rhy bell
i’n caru ni.

Duw a ddaeth un tro
i’w fyd, daeth yma’n fyw,
a dangos wnaeth i ni
mai cariad yw.

GWYN THOMAS Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 141)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • January 28, 2016