logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Drwy gyfnodau o dywyllwch

Drwy gyfnodau o dywyllwch
Drwy y dyddiau trist  eu gwedd,
Rhoddaist nerth i’r rhai lluddedig
I’th glodfori di mewn hedd.
Rhoist i’n olau a llawenydd
Yn dy gwmni cilia ofn;
Iesu, cedwaist dy addewid,
Rhennaist ras o’th galon ddofn.

Profwyd o gynhaliaeth natur
Gwelwyd harddwch yn y wlad,
Ti a luniodd y tymhorau
Molwn Di, ein Nefol Dad.
Ti sy’n rhannu gair y bywyd,
Yngan air dy ras, O Dduw;
Casgla ‘nghyd y sawl a brynwyd
Fel y byddont hwythau fyw.

Megis blodau’n byw a marw –
Fel bu’r nos ar derfyn dydd
Chwalwyd llywodraethau’r ddaear
Wrth i’r caethion ddod yn rhydd.
Crist, mae’th deyrnas yn lledaenu
Wrth i’r amser lifo ‘mlaen,
Gwelwyd cynaeafu’r miloedd
Yn yr eglwys sydd ar dân.

Arglwydd, canwn it ein clodydd
Gŵr y Groes, y grymus Dduw,
Yng ngherddediad y tymhorau
Gwyddom dy fod wrth y llyw.
Megis fflach ar draws ffurfafen
Ti yw golau’r nefol wawr,
Gwnaethost addo, “Rwyf yn dyfod,”
Arglwydd Iesu tyrd yn awr.

Denzil Ieuan John. Defnyddiwyd trwy ganiatâd.

PowerPoint