logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dros y bryniau tywyll niwlog

Dros y bryniau tywyll niwlog,
Yn dawel, f’enaid, edrych draw –
Ar addewidion sydd i esgor
Ar ryw ddyddiau braf gerllaw:
Nefol Jiwbil,
Gad im weld y bore wawr.

Ar ardaloedd maith o d’wyllwch
T’wynnu a wnelo’r heulwen lân,
Ac ymlidied i’r gorllewin
Y nos o’r dwyrain draw o’i blaen:
Iachawdwriaeth,
Ti yn unig gario’r dydd.

Hed fel mellten, bur efengyl,
A gorchfyga oll yn lân
Bydded i’th gyffiniau eang
Ymhelaethu fyth ymlaen;
A’th lywodraeth,
Dros y moroedd maith i gyd.

William Williams, Pantycelyn,  John Williams, Pantycelyn

(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 516)

PowerPoint