logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Draw yn nhawelwch Bethlem dref

Draw yn nhawelwch Bethlem dref
daeth baban bach yn Geidwad byd;
doethion a ddaeth i’w weled ef
a chanodd angylion uwch ei grud:
draw yn nhawelwch Bethlem dref
daeth baban bach yn Geidwad byd.

Draw yn nhawelwch Bethlem dref
nid oedd un lle i Geidwad byd;
llety’r anifail gafodd ef
am nad oedd i’r baban lety clyd:
draw yn nhawelwch Bethlem dref
nid oedd un lle i Geidwad byd.

Draw yn nhawelwch Bethlem dref
fe anwyd Crist yn Geidwad byd;
canwn garolau iddo ef
a molwn ei gariad mawr o hyd:
draw yn nhawelwch Bethlem dref
fe anwyd Crist yn Geidwad byd.

JOHN HUGHES, 1896-1968 © Delun Callow. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 465)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 11, 2016