logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Draw, draw ymhell mae gwyrddlas fryn

Draw, draw ymhell mae gwyrddlas fryn
tu faes i fur y dref
lle’r hoeliwyd Iesu annwyl gynt
o’i fodd i’n dwyn i’r nef.

Ni wyddom ni, ni allwn ddweud
faint oedd ei ddwyfol loes,
ond credu wnawn mai drosom ni
yr aeth efe i’r groes.

Bu farw er mwyn maddau bai
a’n gwneud bob un yn dda,
i ni o’r diwedd gael y nef
drwy’r gwaed a’n llwyr lanha.

Nid oedd ond un yn ddigon da
i dalu pridwerth dyn;
ni allai neb ddatgloi y drws
i’r nef ond ef ei hun.

Fe’n carodd, do, yn annwyl iawn,
O carwn ninnau ef
gan gredu yn rhinweddau’r gwaed
a gweithio gwaith y nef.

C. F. ALEXANDER, 1818-95 (There is a green hill far away), cyf. ELFED, 1860-1953

(Caneuon Ffydd 490)

PowerPoint