logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dos rhagot cân, o deffro eglwys Dduw

Dos rhagot cân, o deffro eglwys Dduw,
Aed iachawdwriaeth i’r cenhedloedd gwyw;
Cyhoeddwch Grist yn frenin, Geidwad mad,
A chaner clodydd iddo ym mhob gwlad.

Dos rhagot cân, fe’n câr ni oll bob un,
Trwy ras fe etyb galwad pob rhyw ddyn;
Pa fodd y galwant oni chlywsant air
Gwahoddiad grasol Iesu faban Mair?

Dos rhagot cân, at bechaduriaid lu,
Boed dlawd neu gefnog, yn y tw’llwch du;
Rho inni, Iôr, gonsýrn dros ddynol-ryw,
Dosturiol gariad fel ein Harglwydd Dduw.

Dos rhagot cân, yn lled y pen mae’r pyrth,
A rhannu rhoddion Duw trwy’r byd yw’r wyrth;
Cael bywyd fel dy Brynwr cu fo’th nod,
Bydd fyw ei rym pridwerthol er Ei glod.

Dos rhagot cân, o cyfod Eglwys Dduw,
A nerth ein Crist bob amser i ni’n llyw;
Nes bo’r cenhedloedd ar eu gliniau oll
Yn ei addoli’n Arglwydd yn ddi-goll.

(Grym Mawl 2: 31)

James Seddon: Go forth and tell! O Church of God, awake!, Cyfieithiad Awdurdodedig: Hywel Griffiths

PowerPoint