logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dos, dywed ar y mynydd

Dos, dywed ar y mynydd, ledled y bryn ac ymhob man,
dos, dywed ar y mynydd am eni Iesu Grist.

Tra gwyliai y bugeiliaid y praidd drwy’r noson hir,
yn syth o’r nef disgleiriodd goleuni dwyfol, clir.

A hwythau, wedi’i weled, aent ar eu gliniau ‘nghyd,
ac yna mynd ar unwaith i geisio Prynwr byd.

Pan geisiais innau Iesu, fe’i ceisiais nos a dydd,
erfyniais am ei gymorth, arweiniodd fi yn rhydd.

Fe’m gwnaeth yn wyliwr cyson ar furiau dinas Duw,
a’m rhawd, fi Gristion eiddil, mor ddedwydd, dedwydd yw.

1, 2 JOHN WESLEY WORK, 1873-1925 3, 4 a chytgan ANAD. cyf. DAFYDD OWEN © geiriau Cymraeg, Sian Owen

(Caneuon Ffydd: 476)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • January 20, 2016