logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dof Nefol Dad o’th flaen i’th foli di

Dof Nefol Dad o’th flaen i’th foli di
Dyrchafaf d’enw di yn awr.
Mae d’Air fel craig, o oes i oes yr un,
Cyflawnir d’addewidion mawr.

Yn dy faddeuant gorfoleddaf fi,
Mawr yw dy iachawdwriaeth di,
Mawr yw dy gariad roddodd Grist i’n byd
Yn Iawn dros ein pechodau du.

Molaf Ef â’m nerth, gyda chalon lân,
Fe fawrygaf Frenin nef;
Yr unig wir a bywiol Dduw.
Gyda’n meddwl oll a’n heneidiau brwd,
Derbyn aberth gennym ni
O foliant pur i’th enw gwiw.

(Grym Mawl 2: 46)

Geoff Baker: Heavenly Father, How I worship, Cyfieithiad Awdurdodedig: Alun Tudur
Hawlfraint © 1997 daybreak Music Ltd.

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 19, 2015